"Ma' pob trefn ar 'i gwanaf pan fo 'na wrthdaro oddi fewn. Ma'n rhaid inni ddeffro'r genedl. Ma'r Orsedd yn eu twyllo. Ffug i gyd yw'r Chwyldro Cynganeddol, rhyw orchudd er mwyn 'yn ca'l ni gyd i'w col. A nawr yw'n cyfle ni. Nawr ne' fyth. Newyddiadurwyr 'yn ni i fod 'n'defe? Rhaid inni weithredu er mwyn i bobol ca'l byw mewn rhyddid unweth 'to. Sytha'r asgwrn cefn 'na da ti." Yr Ynys, dwy genhedlaeth ers y Chwyldro cynganeddol. Fel pawb arall, mae Maldwyn Tanat yn gwingo dan orthrwm yr Orsedd, ond yn mwynhau bywyd ...
Read More
"Ma' pob trefn ar 'i gwanaf pan fo 'na wrthdaro oddi fewn. Ma'n rhaid inni ddeffro'r genedl. Ma'r Orsedd yn eu twyllo. Ffug i gyd yw'r Chwyldro Cynganeddol, rhyw orchudd er mwyn 'yn ca'l ni gyd i'w col. A nawr yw'n cyfle ni. Nawr ne' fyth. Newyddiadurwyr 'yn ni i fod 'n'defe? Rhaid inni weithredu er mwyn i bobol ca'l byw mewn rhyddid unweth 'to. Sytha'r asgwrn cefn 'na da ti." Yr Ynys, dwy genhedlaeth ers y Chwyldro cynganeddol. Fel pawb arall, mae Maldwyn Tanat yn gwingo dan orthrwm yr Orsedd, ond yn mwynhau bywyd cymharol gyfforddus-hyd nes y daw'r cyfle un diwrnod iddo droi'n arwr digon cyndyn... Dyma nofel gyntaf Ian Parri. Cyfuniad unigryw o ddystopia ac abswrdiaeth, dyma weledigaeth hollol wahanol o'r traddodiad llenyddol Cymraeg sydd yn ddoniol, yn arswydus ac yn heriol yn ei thro. "Dystopia dychrynllyd yw thema Gwynfyd, ac mae'r byd wedi ei saern???o'n ofalus. Gyda phob cam, mae'r plot yn datgelu realaeth ofnadwy... Mae Gwynfyd yn nofel ddifyr a dychrynllyd, ac Ian Parri yn awdur sy'n gwybod sut i dynnu darllenydd i mewn i fyd stori." - Manon Steffan Ros Bwriad cyfres Bydoedd Amgen Melin Bapur yw ehangu ystod y llyfrau sydd ar gael yn y Gymraeg ym meysydd ffuglen ddamcaniaethol-sef ffantasi, ffuglen wyddonol, hanes amgen, ac arswyd-drwy gyhoeddi gweithiau newydd a chyfieithiadau, ac ail-gyhoeddi gweithiau y mae eu hap???l yn parhau.
Read Less
Add this copy of Gwynfyd to cart. $12.87, new condition, Sold by Ingram Customer Returns Center rated 5.0 out of 5 stars, ships from NV, USA, published 2024 by Melin Bapur.
Add this copy of Gwynfyd to cart. $27.96, new condition, Sold by Ria Christie Books rated 5.0 out of 5 stars, ships from Uxbridge, MIDDLESEX, UNITED KINGDOM, published 2024 by Melin Bapur.