: ...gwasanaethodd Gymru oreu. Yr oedd ei sel, --a'i afiechyd, efallai, --yn ei wneyd yn chwerw weithiau at ei wrthwynebwyr, ond maddeuir pob gair garw pan gofir am ei lafur llethol gyda'r Adolygydd, a chyda'r Gymraes yn enwedig. Gwelodd mor bwysig oedd merched Cymru; gwyddai y medrent hwy newid y ffasiwn o ddirmygu iaith eu gwlad. Gwelodd fod ar feddwl Cymru eisieu sylfaen o wladgarwch oleuedig, a buasai wedi ysgrifennu llyfr ar hanes Cymru pe tebyg y rhoddasai ei gydwladwyr groesaw iddo. TREFECA "Dyma'r fan, tr'wy byw mi ...
Read More
: ...gwasanaethodd Gymru oreu. Yr oedd ei sel, --a'i afiechyd, efallai, --yn ei wneyd yn chwerw weithiau at ei wrthwynebwyr, ond maddeuir pob gair garw pan gofir am ei lafur llethol gyda'r Adolygydd, a chyda'r Gymraes yn enwedig. Gwelodd mor bwysig oedd merched Cymru; gwyddai y medrent hwy newid y ffasiwn o ddirmygu iaith eu gwlad. Gwelodd fod ar feddwl Cymru eisieu sylfaen o wladgarwch oleuedig, a buasai wedi ysgrifennu llyfr ar hanes Cymru pe tebyg y rhoddasai ei gydwladwyr groesaw iddo. TREFECA "Dyma'r fan, tr'wy byw mi gofiaf, Gwelais i di gynta erioed, O flaen porth yr eglwys eang Heb un twmpath dan dy droed, Mewn rhyw ysbryd dwys sylweddol, Fel yng ngolwg dydd a ddaw, Yn cynghori dy blwyfolion, A dweyd fod y farn ger llaw." A dyma'r eglwys lle gorwedd Howel Harris, udgorn y Diwygiad! Yn yr eglwys acw yr argyhoeddwyd ef, a rhoddwyd ef i orwedd lle y clywodd lais Duw yn cynnyg trugaredd iddo. A dacw'r fan lle pregethai pan basiodd William Williams, ar ei ffordd adref o'r ysgol i Bant y Celyn. Bore gofiwyd byth gan William Williams oedd hwnnw, - "Dyma'r boreu, byth mi gofiaf, Clywais innau lais y nef; Daliwyd fi wrth wys oddiuchod, Gan ei swn dychrynllyd ef." Ychydig o lanerchi ar ddaear Cymru sydd mor gysegredig i deimlad Cymro a'r llannerch hon, --lle gwelwyd apostol cynhyrfus y Diwygiad yn pregethu argyhoeddiad i emynnwr y Diwygiad. Llannerch dawel, brydferth ydyw. Y mae ar ychydig o godiad tir, a dringir iddi o dref fechan Talgarth welwn o bobtu i aber Enig a helyg ac ysgaw rhyngom a hi. Y mae golwg hyfryd ar y wlad oddiamgylch, saif cylch o fynyddoedd gwyrddleision fel gwylwyr uwchben y fynwent, a chyfyd twr ysgwar yr eglwys i fyny'n uchel ac yn hyf, i ddangos yspotyn mwyaf cysegredig y fro ddyddorol a phrydferth hon. Y mae'n bedwar o'r gloch ar gloc yr eglwys, ac y mae distawrwydd adfywiol nawn haf wedi disgyn, fel gwlith, ar y wlad ffrwythlawn dyfadwy. Y mae rhyw orffwys breuddwydiol yn meddiannu f'enaid innau wrth neshau at y fynwent; a su hen...
Read Less
Add this copy of Cartrefi Cymru to cart. $16.82, new condition, Sold by Ingram Customer Returns Center rated 5.0 out of 5 stars, ships from NV, USA, published 2012 by Lulu.com.
Add this copy of Cartrefi Cymru to cart. $26.23, new condition, Sold by Ria Christie Books rated 5.0 out of 5 stars, ships from Uxbridge, MIDDLESEX, UNITED KINGDOM, published 2012 by Lulu.com.
Add this copy of Cartrefi Cymru (Welsh Edition) to cart. $38.27, good condition, Sold by Bonita rated 4.0 out of 5 stars, ships from Newport Coast, CA, UNITED STATES, published 2011 by Lulu. com.